Dod i adnabod y cerddor gwerin Elliw Jones
Dwi bob amser wedi mwynhau cerddoriaeth, a thrwy hynny wedi dewis ei astudio fel pwnc yn yr ysgol ac yna ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â Chymraeg.
Roeddwn wastad yn aelod o gôr yn yr ysgol, ac rwyf bellach yn rhan o gôr Cantilena yn Llanrwst.
Roedd Taid bob amser yn hoff o ganu, yn enwedig ar nos Wener yn nhafarn y Tŷ Gwyn yn Rowen. Roeddwn i’n hoffi ymuno efo fo i ganu ei hoff gân, Caru Cymru.
Dwi’n mwynhau perfformio efo’r grŵp Tant. Daethom at ein gilydd gyntaf pan oeddwn tua 15 oed ar gwrs Gwerin Gwallgo yng Nglan-llyn.
