Cyhuddo dyn 65 oed ar ôl i ddyn arall ddioddef ‘anafiadau difrifol’
Mae dyn 65 oed wedi’i gyhuddo o anafu gyda bwriad a chael cyllell yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yn Nhrefor, Gwynedd, nos Wener 23 Hydref.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Hen Ysgol tua 18:00, yn dilyn adroddiad bod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol.
Ymddangosodd Steven Parry, 65 oed, o Hen Ysgol, Trefor, yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun, 26 Hydref. Cafodd ei gadw yn y ddalfa.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 23 Tachwedd.
Cafodd dyn arall ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad a’i ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae swyddogion yn parhau i fod yn yr ardal wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.
Maen nhw hefyd wedi annog y cyhoedd i beidio â dyfalu am amgylchiadau’r digwyddiad na chyhoeddi unrhyw beth ar-lein a allai effeithio ar achos llys posibl.
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad yn cael ei annog i gysylltu â’r heddlu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

