United Kingdom

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy


Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen fu farw.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru bod eu “meddyliau gyda theulu ac anwyliaid y plentyn ar yr adeg eithriadol o anodd hwn”.

“Rydym yn sylweddoli’r effaith ddofn y mae trychineb o’r fath yn ei chael ar y teulu a’r gymuned ehangach.

“Mae ymchwiliad llawn i’r amgylchiadau a’r gwrthdrawiad yn cael ei gynnal, ac rydyn ni’n apelio unwaith eto ar unrhyw un oedd yn ardal Ffordd Pen y Bryn a Ffordd y Felin tua 17:00 ddydd Iau, a sydd heb eto siarad â ni, i gysylltu cyn gynted â phosib.”

Mae’r heddlu hefyd yn annog unrhyw un all fod â lluniau CCTV preifat – o ddrws blaen tŷ neu luniau dashcam i gysylltu.

“Gall y rhain fod wedi dal rhywbeth nad oeddech chi’n credu oedd yn berthnasol ar y pryd,” meddai’r Ditectif Arolygydd Evans.

“Gall hyd yn oed y darn lleiaf o wybodaeth helpu ein hymchwiliad, er mwyn sefydlu beth ddigwyddodd.”

Cafodd gyrrwr fan – dyn lleol 39 oed, ei arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru.

Mae o bellach wedi ei ryddhau o dan ymchwiliad wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.





Source link

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *