‘Cael gwared ar 150 o swyddi o Brifysgol Aberystwyth yn golled anferth’
Byddai colli dros 150 o swyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael effaith anferth – nid yn unig ar y brifysgol ond ar y dre yn ehangach, medd yr academydd a’r economegydd, yr Athro Dylan Jones-Evans.
Mae’n ymddangos y “bydd pethau’n mynd o ddrwg i waeth” i brifysgolion yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ychwanegodd.
Daw ei sylwadau wedi i Brifysgol Aberystwyth gyhoeddi eu bwriad i arbed £16m wrth “ailstrwythuro” a “chynyddu effeithlonrwydd”.
Dywed Undeb UCU Cymru eu bod wedi’u “llorio ac yn flin gyda’r cyhoeddiad” ac y bydd dros 150 o swyddi yn cael eu colli.
Ddydd Mercher dywedodd yr Is-ganghellor yr Athro Jon Timmis, y “byddwn ni’n cyflogi llai o staff” unwaith bydd yr ailstrwythuro wedi digwydd, er mwyn helpu cynaliadwyedd y brifysgol yn y dyfodol. Ni roddodd ffigwr ar gyfer unrhyw ddiswyddiadau posib.

