Katie Owen a’i chariad newydd at yr iaith a diwylliant Cymraeg
Mae Katie yn cydnabod dylanwad ei thad arni, sef y cynhyrchydd a’r actor Jonny Owen, sy’n briod â actores Line of Duty, Vicky McClure
Meddai Katie: “Mae e’n ysbrydoli fi. Dywedodd e [pan o’n i’n blentyn] ‘ti’n mynd i garu The Beatles, Cymru a phêl-droed’.
“A fi’n gobeithio fi’n turned out yn iawn.”
Bu Katie yn DJio o flaen cefnogwyr pêl-droed yng Nghwpan y Byd yn Qatar ac mi chwaraeodd Sosban Fach fel rhan o’i set.
Erbyn hyn mae’n lysgennad i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac yn brolio Cymru i un wyneb cyfarwydd o gyfresi fel Line of Duty a Trigger Point: “Fi’n caru dangos Cymru i Vicky ac mae hi’n defnyddio ‘cwtsh’, ‘nos da’ a ‘cariad’.
“Fi’n meddwl bod fi’n ffeindio fy hunan yn connected gyda fy roots, fy ancestors sy’n siarad Cymraeg a ‘nes i gwrdd llawer o ffrindiau newydd sy’n siarad Cymraeg.
“Os fi’n gallu gwneud, dwi’n siarad i bobl yn Gymraeg.”
‘Gorau Cymro, Cymro oddi cartref’
Mae Katie yn falch iawn i fod yn Gymraes, yn enwedig pan oedd hi’n byw yn Llundain am flynyddoedd: “Fi mor falch ac fi’n caru dod o Gymru. A pan fi’n gallu defnyddio fy Nghymraeg, dw i’n teimlo jyst yn falch i ddod o Gymru.
“Dw i’n caru defnyddio’r Gymraeg. Fi’n byw yng Nghaerdydd nawr. Fi’n colli Llundain, ond mae rhywbeth am Gymru sy’ jyst yn wahanol.
“Pryd ‘nes i fyw yn Lloegr, [oeddwn i yn] Gymraes x10. ‘Nes i wisgo fflag o Gymru pan yn DJio. ‘Nes i weithio yn America pythefnos yn ôl ac oedd ddim llawer o bobl yno’n gwybod ble mae Cymru ac felly dw i’n caru siarad am Gymru.”

