Tri chynnig i Gymro wrth weld morfil anferthol am yr eildro yn nyfroedd Penfro
Fel un sy’n byw ym mhentref Houghton yn ne Sir Benfro a theulu ei dad yn dod o Langwm ar lan Afon Cleddau, mae’r môr wedi denu Rhys erioed.
“Roedd Llangwm yn bentref pysgota mawr ar un adeg, a dyna sut y dechreuais ymddiddori mewn cychod,” meddai.
“Dwi wedi fy magu o amgylch cychod ers pan oeddwn i’n blentyn bach, ac wrth i mi dyfu’n hŷn, mae’r cychod wedi mynd yn fwy, ac mae’r teithiau wedi mynd yn rhai pellach – teithiau pysgota ydyn nhw fel arfer.”
Ac yntau’n gweithio mewn purfa olew wrth ei waith bob dydd, mae hefyd yn mwynhau cadw hen draddodiad ei gyn-deidiau’n fyw yn ei amser hamdden drwy bysgota â rhwyd.
“Mae gen i hefyd gwch pysgota compass net trwyddedig,” eglurodd.
“Er bod y pysgota i fyny’r afon yn wael iawn y dyddiau hyn, mae’n braf cadw traddodiadau’n fyw, gan fod fy nheulu wedi gwneud hynny ers sawl cenhedlaeth.”

