Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn y de
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe.
Dywedodd Heddlu’r De eu bod wedi cael eu galw i wrthdrawiad ger cylchfan Glais ar yr A4067 am 22:40 nos Wener.
Bu farw dyn 52 oed o Crook, Durham yn y fan a’r lle.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Ychwanegodd y llu eu bod yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad, gan annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

