Disgwyl i beilotiaid Awyrlu ‘wella’n llwyr’ ar ôl i awyren ddisgyn ym Môn
Roedd Gareth Davies o Walchmai yn chwarae golff yn Rhosneigr pan welodd yr hyn ddigwyddodd.
“Yn sydyn fe glywais i glec uwch fy mhen.
“Edrychais i fyny, a’r peth nesa fe welais i’r ddau beilot yn dod allan ac yna’r awyren yn troi ar ei thrwyn ac yn plymio i’r ddaear.
“Roedd yna ffrwydrad anferth a llawer o fwg,” meddai.
Dywedodd Ray Brook sy’n byw yn lleol, ac a dynnodd lun o’r digwyddiad bod yr awyrennau i’w gweld yn hedfan yn rheolaidd yno yn ystod yr wythnos, a bod y digwyddiad yn un “brawychus iawn iawn”.
“Roedden ni i gyd wedi cael ein hysgwyd”, meddai, “ac yn poeni i ddechrau y gallai rhywun fod wedi marw.
“Roedd yn rhyddhad mawr i weld y parasiwtiau”, meddai.
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn Gary Pritchard: “Oedd o’n sioc enfawr i bawb ddoe, a mae fy niolch i yn ddiffuant i’r gwasanaethau brys… yr heddlu, y frigâd dân, gan gynnwys hefyd wrth gwrs gwylwyr y glannau a thimau achub mynydd yr awyrlu brenhinol.
“‘Dan ni i gyd mor ddiolchgar mai mân anafiadau sydd yna i’r ddau beilot ac yn ddiolchgar bod y ddau wedi gwneud eu gorau i sicrhau nad oedd yr awyren yn taro unrhyw beth heblaw am gae.
“Mae’n bwysig bod yna ymchwiliad yn mynd rhagddo, wrth gwrs, mae hynny’n arferol i ddigwyddiad o’r math yna.
“Mae’r llu awyr wedi bod yn y Fali ers rhai blynyddoedd, ac wrth gwrs yn un o gyflogwyr mwya’r ynys.
“Felly mae’n bwysig bod y staff yn ymwybodol o’r hyn sydd yn mynd ymlaen yno. Dwi ddim yn meddwl bod cadw’r awyrennau ar y llawr yn afresymol o gofio beth ddigwyddodd ddoe.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

