United Kingdom

Cyngor Sir Gâr i ystyried cynlluniau posib i gau rhagor o ysgolion


Yr un yw’r dicter yn ardal Bancffosfelen, ble mae 48 o ddisgyblion yn ysgol y pentref ar hyn o bryd.

Dywedodd Aled Davies sy’n llywodraethwr yn yr ysgol bod y newyddion “wedi ein llorio ni ac ein taro ni fel syndod”.

“Dyw’r darlun sydd yn cael ei roi o Ysgol Bancffosfelen yn yr adroddiad sydd yn cael ei gyflwyno ddim yn ddarlun ni’n adnabod,” meddai.

“Da ni fel llywodraethwyr yn nabod yr ysgol yn dda iawn.

“Mae hi’n ysgol sydd yn llwyddo i ddarparu addysg o safon ardderchog yng nghalon y gymuned ym Mancffosfelen.

“Mae yna nifer o bethau sydd yn anghyson ac yn wallus yn yr adroddiad a da ni’n galw ar yr awdurdod i ddal yn ôl nes bod ganddyn nhw ddarlun cywir, cyn ystyried ei dyfodol.”

Mae Ysgol Blaenau yn Llandybïe hefyd dan fygythiad.

Yn ôl adroddiad y cyngor, mae yna 28 o ddisgyblion, ond mae gan yr ysgol ddiffyg ariannol o £287,857 sydd yn debygol o godi i £362,556 yn 2026/27.

Yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Craffu, bydd cynigion y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael eu cyflwyno i gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymroi i greu cymunedau cefn gwlad “cryf a gwydn”.

“Mae cynllunio ysgolion yn fater i awdurdodau lleol, ond fe fydd y llywodraeth yma yn adolygu’r ffordd y mae’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn cael ei weithredu er mwyn sicrhau fod disgyblion wrth galon unrhyw benderfyniadau.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod “wedi ymrwymo i adeiladu cymunedau gwledig cryf a gwydn”.

“Mater i awdurdodau lleol ydy cynllunio lleoedd mewn ysgolion, ond bydd y llywodraeth hon yn adolygu sut y mae’r dybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn cael ei gweithredu, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu llywio, yn gyntaf oll, gan les y disgyblion.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.





Source link

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *