United Kingdom

Digwyddiadau a chyfnod o dawelwch ar draws Cymru ar Sul y Cofio


Yn Abertawe roedd yna wasanaeth coffa ger y Senotaff a gorymdaith drwy’r ddinas am 13:30 cyn Gwasanaeth Cofio yn y Gadeirlan am 14:30.

Ym Mhowys, bu gwasanaethau mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Y Drenewydd, Machynlleth a Llanfair-ym-Muallt.

Roedd y gwasanaeth cofio blynyddol yn Wrecsam yn dechrau am 10:55 ym Modhyfryd.

Hefyd yng ngogledd Cymru roedd yna orymdaith yng Nghonwy yn dilyn gwasanaeth am 10:45 ger y Senotaff ym Modlondeb.

Mae Ras Goffa yn cael ei chynnal ar Drac Môn yn ystod y penwythnos, gan gyfuno chwaraeon moduro gyda chofio am y rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfel – bydd y ras yn cael ei hatal am gyfnod ar gyfer gwasanaeth coffa ddydd Sul.



Source link

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *