Cadarnhad bod y ddynes a gafodd ei chanfod mewn fan ar dân yn feichiog pan fu farw
Mae teulu Ms Phythian wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei galw’n “fam, merch, chwaer, modryb a ffrind annwyl iawn”.
“Bydd Samantha, neu Sammi fel y mae pawb yn ei hadnabod, yn cael ei chofio am y lle arbennig a oedd ganddi yng nghalonnau pawb a oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu,” meddai’r teulu mewn teyrnged a rannwyd gan Heddlu’r Gogledd.
“Mae ei marwolaeth drasig a sydyn wedi llorio ei theulu a’i ffrindiau sy’n ei chael hi’n anodd dod i delerau â cholli rhywun a oedd yn golygu cymaint i gymaint o bobl.
“Ni ddylai unrhyw deulu byth orfod dioddef y boen o golli anwylyd o dan amgylchiadau o’r fath.
“Bydd yn cael ei chofio’n annwyl am byth, a bydd colled enfawr ar ei hôl.
“Fel teulu, hoffem ofyn i bobl fod yn ystyriol ac yn barchus ynghylch y sibrydion ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod trychinebus hwn.”

