Ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn creu ‘teimladau anhygoel’ i Dafydd Owain
Dafydd Owain yw enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026.
Daeth i’r brig gyda’r albwm Ymarfer Byw, oedd ymhlith 15 a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni.
Dyma’r drydedd wobr iddo ennill eleni gyda’r albwm yma ar ôl dod i’r brig yng Ngwobrau’r Selar ddechrau’r flwyddyn ac yna cipio Gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn ym mis Awst.
Ar ôl derbyn y wobr gan gyflwynydd y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd, Sian Eleri, dywedodd ei fod yn “od sefyll ar ben dy hun” ar lwyfan i dderbyn wobr pan fod “un teulu mawr” o bobl, gan gynnwys aelodau band, wedi cyfrannu at y llwyddiant.
Mae’n derbyn tlws a gwobr ariannol o £10,000.
Roedd yna wobr arbennig hefyd i’r gantores Mary Hopkin i gydnabod ei chyfraniad i’r byd cerddoriaeth dros sawl degawd.
Merch y gantores o Bontardawe, Jessica Lee Morgan, wnaeth dderbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig ar ei rhan.

