United Kingdom

Kinnock yn cyhuddo Llywodraeth Cymru ‘o ddal buddsoddi’n ôl’


Fe ddefnyddiodd Stephen Kinnock ei araith hefyd er mwyn galw am ddatganoli mwy lleol o fewn Cymru, gan ddweud fod perygl mai Cymru fydd y genedl leiaf datganoliedig ym Mhrydain os yw’r rhaglen ddatganoli yn Lloegr yn rhoi mwy a mwy o bwerau i faeri rhanbarthol a chynghorau lleol.

Dywedodd fod “pobl Cymru yn haeddu lefelau tebyg o reolaeth dros benderfyniadau â phobl yr ochr arall i’r ffin”.

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales o Lerpwl, dywedodd Kinnock y byddai llywodraeth Prydain yn rhoi “ystyriaeth ofalus” i unrhyw gynigion gan lywodraeth Cymru i ddatganoli rhagor o bwerau i’r Bae, ond awgrymodd y gallai trosglwyddo cyfrifoldeb am blismona beryglu cydweithrediad trawsffiniol rhwng heddluoedd.

“Y cwestiwn yw, a fydd hynny’n lleihau troseddu? A fydd hynny’n gwneud pobl Cymru yn fwy diogel?

“Yr hyn ry’n ni yn ei wybod yw bod lefel enfawr o integreiddio rhwng heddluoedd Lloegr a Chymru.

“O ran materion fel county lines, lle mae angen cydweithrediad cadarn iawn rhwng heddluoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr, er enghraifft, neu Avon a Somerset a lluoedd yng Nghymru, gadewch i ni beidio â gwneud unrhyw beth sy’n peryglu’r integreiddio hwnnw.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.





Source link

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *