Sefyllfa ariannol ysgolion Sir Gâr yn ‘ddifrifol’ ac yn ‘anghynaliadwy’
Dyma’r pum ysgol uwchradd a chynradd gyda’r diffyg ariannol mwyaf, yn ôl papurau’r cyngor:
Diffyg ariannol ysgolion uwchradd
-
Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo – £2,988,098
-
Ysgol Gyfun Emlyn, Castellnewydd Emlyn – £2,808,814
-
Ysgol Maes y Gwendraeth, Cefneithin – £1,976,455
-
Ysgol St John Lloyd, Llanelli £1,103,415
-
Ysgol Dyffryn Taf, Hendy-gwyn ar Daf – £914,554
Diffyg ariannol ysgolion cynradd
-
Ysgol Myrddin, Caerfyrddin – £821,687
-
Ysgol Pentip, Llanelli – £456,685
-
Ysgol Bro Banw, Rhydaman – £439,786
-
Ysgol Talacharn, Talacharn – £380,076
-
Ysgol Blaenau, Llandeilo – £362,566
Mae swyddogion cyllid y cyngor yn rhybuddio bod nifer o ysgolion wedi gosod cyllidebau sydd yn uwch na’u lefelau ariannu unwaith eto eleni ac “nad yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy”.
Maen nhw’n galw am weithredu ar lefel ysgolion unigol i leihau gwariant, ac mae gwariant ar anghenion dysgu ychwanegol yn un o’r rhesymau am y gorwariant yn ôl swyddogion Cyngor Sir Gâr.
Mae yna alw hefyd am gynnydd pellach ar “resymoli” ysgolion.
Dyw’r broblem o ddiffygion cyllidebol ddim yn unigryw i ysgolion Sir Gâr, ac fe rybuddiodd Estyn yn gynharach eleni, dolen allanol bod 393 o ysgolion – neu un mewn pedair o ysgolion Cymru – yn wynebu diffyg ariannol oedd yn cyfateb i gyfanswm o £72m.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

