Ffotograffau Geoff Charles yn ysbrydoli dogfennu Pen Llŷn heddiw
Mae gwaith Anna a Geoff Charles nawr yn cael eu dangos ym Mhlas Glyn y Weddw tan 4 Hydref. Mae Yr Etifeddiaeth hefyd yn cael ei dangos yno.
Ei gobaith ydi bod y prosiect yn dylanwadu ar bobl heddiw ac ar genedlaethau’r dyfodol.
“Mae amser yn newid a ti byth yn gwybod os mai dyma’r tro ola’ alla i dynnu’r llun yma, achos mae’r llefydd a phobl yn newid,” meddai.
“Mae o’n gyfrifoldeb o ran lluniau pwy ti’n dynnu a pwy ti’n methu ac mae ‘na bwysau i neud y peth yn iawn.
“Mae’n bwysig achos mae o’n neud i chdi feddwl am dy gymuned dy hun – pwy sy’n bwysig a pwy sy’n neud lot yno.
“Gobeithio bydd pobl sy’n mynd i weld y lluniau yn meddwl am y bobl sy’n bwysig yn eu cymuned nhw.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

