Mari Siôn yn ‘mentro’ a dechrau gwasg gyhoeddi newydd
Y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi gan Atro yw llyfr Ymarfer Byw (I’r Byw) gan enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymraeg eleni, Dafydd Owain.
Daeth y syniad gan Mari bod modd cyhoeddi llyfr am yrfa Dafydd yn sgil sgwrs gyda’r cerddor rai misoedd ynghynt, ble soniodd Dafydd ei fod yn gweithio ar ffilm a oedd yn “blethwaith o berfformiadau a bod ‘na fyfyrdodau a cherddi”.
Dywedodd Mari fod y llinell gyntaf gan Dafydd yn y ffilm wedi ei bachu, “dwi’n meddwl fy mod i ofn pianos” a dyna pryd feddyliodd Mari fod deunydd llyfr yno hefyd yn ogystal â ffilm.
“Yn syth nes i feddwl fod ‘na rhywbeth mwy fan hyn a dwi’n meddwl bydd pobl yn dod yn ôl at y myfyrdodau yma ar ôl gwylio’r ffilm a ro’n i’n gallu ei weld o fel llyfr yn fy mhen a meddwl y base fo’n sefyll ar ben ei hun hefyd – os oedd pobl heb weld y ffilm ac sydd ddim yn gyfarwydd efo’i gerddoriaeth.
“Dwi’n meddwl y byddai’r sgwennu mor gryf y base pobl yn cael rhywbeth o’r gyfrol a dwi’n falch fod Daf mor barod i fentro efo fi,” meddai.

