United Kingdom

Marwolaeth dyn o Wynedd yn ‘ddamwain’ ar ôl cwympo o uchder ym Malta – cwest


Clywodd y gwrandawiad fod Kieran Hughes wedi teithio i Malta gyda thri o’i ffrindiau ar wyliau pum noson.

Ar y noson cyn ei farwolaeth roedden nhw wedi bod yn mwynhau mewn tafarndai, casino a chlwb dawnsio lleol.

Dangosodd adroddiadau post mortem gan awdurdodau Malta fod “lefel sylweddol” o alcohol yn ei waed.

Roedd y pedwar wedi cael bwyd ac wedi yfed alcohol, ac wrth gyrraedd yn ôl i’r gwesty yn oriau mân y bore, clywodd y cwest fod lluniau cylch cyfyng yn dangos Kieran a’i ffrindiau yn cerdded yn simsan a hwyliog drwy goridorau’r gwesty.

Roedd Kieran Hughes yn rhannu ystafell gyda’i gyfaill agos, Osian Ynyr Jones.

Roedd y ddau wedi bod yn ffrindiau ers oedden nhw’n ddwy oed.

Wedi cyrraedd yr ystafell wely aeth y ddau yn syth i’w gwlau.

Roedd lluniau camerau cylch cyfyng o’r ardal gerllaw yn dangos Kieran Hughes yn disgyn o’r balconi bron i 50 munud yn ddiweddarach.

Mae’n debyg fod Kieran Hughes wedi codi o’i wely a cherdded at y balconi ac yna wedi disgyn.

Tua 04:15 daeth aelod o’r cyhoedd i mewn i’r gwesty i ddweud bod dyn yn gorwedd ar y llawr y tu allan.

Galwyd yr heddlu, ac fe ddaethon nhw o hyd i ddyn “mewn pwll o waed,” heb ddim ond dillad isaf amdano, ac yn edrych fel pe na bai ganddo “unrhyw arwydd o fywyd”.

Clywodd y llys nad oedd Osian Ynyr Jones yn gwybod beth oedd wedi digwydd gan ei fod o’n cysgu’n sownd.

Clywodd y cwest ei bod yn debygol bod Mr Hughes a’i ffrind wedi mynd i gysgu, a bod Mr Hughes, a oedd mewn cyflwr o “feddwdod difrifol”, wedi mynd allan – o bosibl oherwydd ei fod yn teimlo’n sâl neu eisiau awyr iach.

Cadarnhaodd y crwner, wrth ystyried yr holl dystiolaeth, nad oedd unrhyw sail i gamau troseddol, ac iddo farw’n ddamweiniol.



Source link

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *