United Kingdom

Carcharu cyn-dditectif am rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda ffrind


Mae cyn-dditectif wedi cael ei charcharu am rannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gyda ffrind.

Fe wnaeth Emma Gardner, 47 oed o Fae Colwyn, Sir Conwy, rannu gwybodaeth gyda dyn yr oedd hi’n ei adnabod yn ogystal â chael mynediad – heb ganiatâd – at ddogfennau cyfrinachol yn ymwneud â fo a thri o bobl eraill.

Rhwng 19 Ionawr 2022 a 23 Medi 2022 fe edrychodd Gardner ar y dogfennau dan sylw 47 o weithiau – a hynny heb awdurdod.

Roedd y cyn-dditectif arolygydd gyda Heddlu’r Gogledd wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn, ond cafodd ei dyfarnu’n euog gan reithgor yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Gorffennaf.

Clywodd y llys fod Gardner yn ffrindiau gyda’r dyn ac wedi cael rhyw gyda fo ar ddau achlysur. Roedd y wybodaeth gafodd ei basio ‘mlaen iddo yn ymwneud â chwyn yn ei erbyn a chwyn yr oedd o wedi ei wneud ei hun.

Wrth ddedfrydu fore Gwener, dywedodd y barnwr Timothy Petts fod Gardner “nid yn unig wedi gadael ei hun i lawr, ond hefyd ei chyd-weithwyr”.

Ychwanegodd fod dedfryd o garchar yn ofynnol oherwydd “dydy hyd yn oed ditectifs ddim uwchlaw’r gyfraith”.

Mae Gardner eisoes wedi ymddiswyddo, ond dywedodd Heddlu’r Gogledd bod ei gweithredoedd cyfystyr â chamymddwyn ac y byddai’n cael ei gwahardd rhag gweithio i’r heddlu yn y dyfodol.



Source link

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *