Calonnau perchnogion ffatri ym Machynlleth ‘wedi torri’ yn dilyn tân
Teulu sy’n enwog ar draws y byd am feicio mynydd yw perchnogion yr adeilad sydd wedi ei effeithio gan y tân.
Bu’r teulu Atherton yn dominyddu beicio mynydd am flynyddoedd, ac ar ôl sefydlu cwmni Atherton Bikes yn 2019 fe symudon nhw i’r ffatri yn Stad Ddiwydiannol Treowain yn 2024.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y brawd a chwaer, Gee a Rachel Atherton eu bod yn cydymdeimlo yn arw gydag aelodau staff a chwsmeriaid.
“Mae’r newyddion yma wedi torri ein calonnau,” meddai Gee.
“Fe wnawn ni ddiweddaru cwsmeriaid, a phawb sy’n disgwyl am feic – fe wnawn ni gysylltu gyda chi cyn gynted â phosib.”
Ychwanegodd Rachel eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion “anhygoel” y gwasanaethau brys.
“Y peth pwysicaf yw bod neb wedi brifo a bod pawb yn ddiogel.”
Mae brawd Gee a Rachel, Dan Atherton hefyd yn un o gyfarwyddwyr y cwmni.

