Jac Northfield: Dim Byd fel gwneud comedi
Roedd Jac a Gwion eisioes wedi bod yn gwneud eitemau byr doniol i Hansh S4C dros y dair blynedd diwethaf.
Daeth cyfle gan Boom Cymru i ddatblygu cyfres gomedi i S4C – a diolch i’w cyfnod nhw yn y coleg, roedden nhw gam ar y blaen.
“Oedd gen i syniad in mind yn barod ers dechra’r ail flwyddyn yn y brifysgol, sef y criw yma o gymeriadau o’n i ‘di greu sef Noa, Llew a Lwsi.
“Roedd jest yr holl bobl o gwmpas ni ar y pryd yn deud y leins yma – ac o’n i’n meddwl ‘ma hwnna’n hilarious dwi’n mynd i ddwyn hwnna’.”
Felly fe wnaeth Jac a Gwion ddechrau sgwennu’r sgript ar gyfer chwe rhaglen, ac efo help y cwmni cynhyrchu, ei throi’n gyfres Gwagle, gyda’r ddau yn actio ynddi.
“Oedd o’n brofiad absolutely amazing ac roedda ni’n lwcus bod ni efo criw profiadol iawn,” meddai Jac.
“Actio o’n i ‘di bod isho ‘neud. Dwi ddim rili isio bod o flaen camera fel fi fy hun – dwi’n licio’r escape o fod yn rhywun arall.”

